Image

Digwyddiad Defaid Cymru NSA 2023

Bydd rhaglenni iechyd anifeiliaid arobryn ac arloesol Cymru i’w gweld yn NSA Cymru/Wales Welsh Sheep 2023 yr wythnos nesaf (Mai 16 eg ).

I’w gynnal yn Red House Farm, Aberhafesb, ger y Drenewydd ym Mhowys, NSA Cymru/Wales Welsh Sheep yw’r prif ddigwyddiad ar fferm ar gyfer y sector yng Nghymru.

Gan arddangos arbenigedd technegol a’r gorau o ffermio defaid masnachol, mae NSA Cymru/Wales Welsh Sheep yn denu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r diwydiant defaid.

Eleni, bydd pwyslais newydd ar estyn allan i ddweud wrth y cyhoedd am y stori gadarnhaol o ffermio defaid yng Nghymru, a rhan bwysig fydd yr ymdrechion ymroddedig i gynyddu iechyd a lles anifeiliaid.

Ar stondin rhif 176, bydd cynhyrchwyr defaid yn gallu dod i wybod am ddatblygiadau o fewn pynciau sy’n effeithio ar eu diwydiant, gan gynnwys y clafr ac ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

Newydd ei lansio yr wythnos hon (Mai 10), Gwaredu Scab yw’r prosiect profi a thrin cyntaf o’i fath ledled y wlad. Mae rhaglen genedlaethol ar gyfer dileu clafr defaid, sy’n cael ei darparu’n rhad ac am ddim i ffermwyr, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i harwain gan Goleg Sir Gâr.

Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gweld arddangosiad peiriant dipio defaid. Gallant siarad ag aelodau o dîm Gwaredu Scab am y fenter a sut y gall y prosiect wella lles y ddiadell Gymreig ac yn y pen draw helpu i fod o fudd i ddiwydiant defaid Cymru yn ei gyfanrwydd.

Darperir y driniaeth gan brosiect Gwaredu Scab trwy ddipio defaid mewn dip Organoffosffad (OP) mewn amgylchedd a reolir yn ofalus gan gontractwyr dipio symudol Bydd dip wedi’i ddefnyddio yn cael ei waredu mewn gweithfeydd trin cemegol heb unrhyw gost i ffermwyr.

Dywedodd John Griffiths, Rheolwr Rhaglen Gwaredu Scab, “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1.5 miliwn bob blwyddyn, am o leiaf dwy flynedd, i fynd i’r afael â’r clafr. Mae Gwaredu Scab yn rhaglen a ariennir 100% sy’n cynnig gwasanaeth cyflawn o brofi i drin heb unrhyw gost i ffermwyr.

“Fel y gwyddom i gyd, mae’r clafr yn hynod heintus a gall achosi problemau lles sylweddol ymhlith diadelloedd. Felly, rydym yn edrych ymlaen at NSA Welsh Sheep i gael lledaenu’r neges i gymaint o bobl yn y diwydiant defaid â phosib fod Gwaredu Scab ar gael i helpu ffermwyr i fynd i’r afael â’r clafr.”

Ochr yn ochr â Gwaredu Scab yn adran iechyd anifeiliaid y sioe fydd rhaglen Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol) sy’n helpu milfeddygon, ffermwyr a pherchnogion ceffylau i fynd i’r afael â lledaeniad ymwrthedd gwrthfiotig mewn anifeiliaid a’r amgylchedd yng Nghymru.

Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid amaethyddol allweddol Cymru, partneriaid cyflenwi milfeddygol, a sefydliadau academaidd, mae Arwain DGC yn defnyddio hyfforddiant, technoleg newydd, a chasglu data i helpu i wella dealltwriaeth a lleihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau a gwrthlyngyryddion a thrwy hynny leihau’r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn datblygu.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd gwaith Arwain DGC ei gydnabod yng Shared Learning & Awards Gwarcheidwaid Gwrthfiotig – lle derbyniodd y rhaglen ddwy wobr.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid Menter a Busnes ac arweinydd rhaglen Arwain DGC, “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda ffermwyr defaid a milfeddygon ledled Cymru i leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau, gan hefyd wella eu hiechyd a’u cynhyrchiant.”

Bydd hefyd trafodaeth ac arddangosiad o’r Ap Bioddiogelwch a ddatblygwyd yn ddiweddar – a grëwyd fel rhan o raglen DGC Arwain.

Yn ymuno ag adran Iechyd Anifeiliaid yn y sioe fydd grŵp Milfeddygon Defaid Cymru (WSV/MDC), gyda rhaglen o drafodaethau ac arddangosiadau yn cynnwys milfeddygon o bob rhan o Gymru a’r Gororau.

Bydd gweithgareddau’n dechrau gydag ymchwiliad i achosion o ddefaid tenau ac arddangosiad o sganio ysgyfaint defaid am Adenocarsinoma’r Ysgyfaint mewn Defaid (OPA). Bydd yr arddangosiad hwn yn cael ei ddilyn gan fideo post-mortem a sesiwn gyda milfeddygon ar drogod. Yn cymryd rhan fydd Canolfan Milfeddygaeth Cymru, a fydd yn dweud wrth ffermwyr ac yn dangos pwysigrwydd diagnosis cywir o’r clefyd, yn enwedig ymchwiliadau post mortem.

Dywedodd Kate Hovers, cadeirydd WSV/MDC a chadeirydd NSA Cymru/Wales, “Rydym am ddangos y nifer fawr o filfeddygon sydd â diddordeb mewn defaid sy’n gweithio gyda’r diwydiant defaid ac ar ei gyfer yng Nghymru – a gwybodaeth amdano. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni edrych tuag at gynlluniau ffermio cynaliadwy yn y dyfodol.”

Bydd gweithgaredd arbennig hefyd yn edrych ar reoli parasitiaid mewn labordy symudol gan The Moredun Foundation – elusen gofrestredig sy’n cefnogi iechyd a lles da byw trwy ymchwil ac addysg.

Wedi’i ffurfio gan ffermwyr ar gyfer ffermwyr ym 1920, mae The Moredun Foundation yn ymroddedig i wella dealltwriaeth, triniaeth ac atal clefydau heintus trwy ymchwil ac addysg. Mae’r Sefydliad yn datblygu rhaglenni allgymorth amrywiol ar gyfer ffermwyr, milfeddygon a’r cyhoedd; ac yn cefnogi ystod eang ac amrywiol o fentrau ymchwil o fewn Sefydliad Ymchwil Moredun.

Dywedodd yr Athro Lee Innes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Grŵp Moredun, “Rydym bob amser wedi cynnal perthynas waith agos â’r gymuned ffermio i sicrhau bod yr ymchwil wyddonol yn canolbwyntio ar ddarparu atebion ymarferol ar y fferm.

“Yn NSA Welsh Sheep, bydd gennym ni amrywiaeth o adnoddau llawn gwybodaeth, gan gynnwys taflenni ffeithiau ac animeiddiadau fideo, ynghyd â byrddau gwybodaeth ar y clefydau allweddol sy’n effeithio ar ddefaid yn y DU. Hefyd, gall ymwelwyr siarad â’n harbenigwyr i ddysgu mwy am y datblygiadau diweddaraf o ran atal a rheoli clefydau mewn defaid.”