BVD yng Nghymru - Dros hanner o fuchesi wedi cael eu sgrinio ym mlwyddyn 1

2nd Oct 2018

Mae’r rhaglen Genedlaethol Newydd, Gwaredu BVD ar darged i waredu BVD o’r fuches genedlaethol Cymru, dim ond un flwyddyn i mewn i’r rhaglen, mae dros 50% o ffermydd wedi cael eu sgrinio – nawr caiff yr ymgyrch ei wthio ymhellach er mwyn lledaenu’r ymarfer.

 

Mae Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yn glefyd feirysol mewn gwartheg sy’n achosi gwrth imiwnedd a diffyg atgynhyrchu. Gall yr afiechyd leihau ffrwythlondeb, cynyddu achosion erthyliad ac achosi niwmonia yn y stoc wedi’i effeithio, sy’n creu effeithiau drastig, personol parhaol ac ariannol ar yr holl ffermydd wedi’u effeithio.

Mae’r canlyniadau lles ac ariannol yn sylweddol, efo amcangyfrif cost o £4,500 y flwyddyn ar gyfer y fuches bîff gyfartalog, a £15,000 ar gyfer buchesi llaeth o ganlyniad i ffrwythlondeb gwael, llai o gynnyrch llaeth, enillion pwysau dyddiol isel, twymyn, dolur rhydd a phroblemau anadlu. Mae’r sgrinio am ddim, ac mae’r rhaglen hefyd yn darparu hyd at £500 ar gyfer ffermwyr da byw i weithio efo’u milfeddygon. Ond bydd yr arian yma yn dod i ben yn 2020 pan fydd y profion yn debygol o fod yn orfodol, felly mae ymgyrch newydd yn cael ei lansio i gyrraedd holl ffermwyr y wlad ac i gael nhw i weithredu nawr i atal yr afiechyd rhag lledaenu.

Gwnaeth AC Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn canmol y rhaglen ar ei hymweliad i’r stondin Gwaredu BVD eleni yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ganmol y gwaith hyd yma: “Dwi’n falch iawn eu bod nhw wedi sgrinio 50% o ffermydd yng Nghymru ar gyfer Dolur Rhydd Feirysol Buchol – mae hwn yn garreg filltir fawr o feddwl fy mod i dim ond wedi lansio’r rhaglen lai na blwyddyn yn ôl.”

Mae’r rhaglen sgrinio wirfoddol Gwaredu BVD tair blynedd gwerth £10 miliwn ar gael i bob 12,000 o ffermydd gwartheg yng Nghymru, a cheir ei rheoli gan Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth Coleg Sir Gar mewn partneriaeth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae’n cynnwys sgrinio BVD a phrofion TB ar yr un pryd i ddarparu cymorth ac arweiniant angenrheidiol i sicrhau bod ffermwyr yn gallu adnabod buchesi sydd wedi'u heintio â BVD yn gywir ac yn gyflym. Bydd cefnogaeth hefyd ar gael i ddod o hyd i'r anifeiliaid sydd wedi'u Heintio'n Barhaus (PI) o’r buchesi heintiedig.

Meddai John Griffiths, rheolwr y Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yng nghampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr: "Hyd yn hyn, cawn ein hannog yn fawr gan ddefnydd y rhaglen sgrinio gan ffermwyr Cymru, ond nid ydym o dan unrhyw gamargraff y bydd y ddwy flynedd nesaf yn her os ydym am gael gwared o’r afiechyd, fel y digwyddodd mewn sawl gwlad Ewropeaidd. Mae BVD mewn gwartheg yng Nghymru yn gyffredin, ac mae’r costau yn uchel, felly byddwn yn gwthio’r gweithgareddau i sicrhau bod ffermwyr yn deall ac yn sylweddoli ar fanteision sgrinio, fel bod ni’n rhyddhau Cymru o BVD.”

Mae cael gwared â BVD yn flaenoriaeth o’r Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, sy’n cael ei ariannu gan y Rhaglen Datblygu Wledig Llywodraeth Cymru. Mae’r afiechyd dal i aros yn y fuches genedlaethol gan bresenoldeb gwartheg sydd wedi eu Heintio’n Barhaus. Mae’r rhain wedi’u heintio yn y groth a’r firws ysgarthu am eu holl fywyd sy’n achosi problem i’r holl wartheg ar y fferm.

Wrth brofi’r stoc ifanc, mae’r rhaglen yn bwriadu adnabod buchesi sydd â BVD yn bresennol ar y fferm a chefnogi’r rhain er mwyn cael gwared â’r anifeiliaid sydd wedi’u heintio. Cynhelir profion yn ystod y prawf TB blynyddol ar y fferm sy’n gofyn am pum anifail rhwng naw a 18 mis i gael prawf gwaed, a phrofir y rhain am wrthgyrff BVD. Os oes gwrthgyrff BVD yn bresennol ar y fferm, yna argymhellir i ddod o hyd i’r anifeiliaid wedi’u Heintio’n Barhaus (PI) a’u cael gwared.

Dr Neil Paton, y Darlithydd Iechyd a Chynhyrchu Anifeiliaid yng Ngholeg Milfeddygol Brenhinol yw’r arweinydd Technegol Milfeddygol ar y rhaglen. Meddai Neil: “Mae profion yn dangos bod mwy na chwarter o fuchesi bîff a llaeth Cymru wedi’u heintio a BVD, felly mae rhaid i ni helpu’r ffermwyr stoc da byw ledled Cymru i gydweithio a ni i ganfod os mae ei buches wedi cael eu hamlygu i’r firws, ac i’w hadnabod i gael gwared ag unrhyw anifeiliaid wedi’u heintio.”

Fe gafodd Gwion Owen, ffermwr o Hendre Arddwyfaen, Tŷ Nant, Corwen ei buches wedi’i brofi, meddai: “Roedd yr holl broses yn gyflym ac yn hawdd iawn ac nid oedd wedi costio dim i mi. Erbyn hyn, mae gen i’r sicrhad o wybod bod fy muches yn rhydd o BVD sydd mor bwysig i ffrwythlondeb buwch a nifer o resymau eraill.”